Cynyddu maint testun

Golwg360



Cymru’n mynd gam yn nes at ddileu gwastraff

Chwefror 23, 2010 08:44

Fe fydd mesur newydd yn symud Cymru’n nes at y nod o gael gwared ar wastraff yn llwyr.

Fe gafodd ei osod gerbron y Cynulliad ddoe – os caiff ei basio, fe fydd yn rhoi grymoedd newydd i’r Llywodraeth reoli rhai mathau o wastraff.

“Fe fydd y Mesur yn ein gyrru ni tuag at ddulliau o reoli gwastraff sy’n gynaladwy ac yn helpu i leihau ein maint troed carbon ac ecolegol,” meddai Jane Davidson, y Gweinidog Amgylchedd.

Pedwar rhan sydd i’r Mesur:

• I roi hawl i’r Llywodraeth wahardd rhai mathau o wastraff o domenni a safleoedd tirlenwi – yn ôl Jane Davidson, dyna’r ffordd fwya’ niweidiol o gael gwared ar sbwriel.

• I roi hawl i’r Llywodraeth godi ffioedd am gael gwared ar rai mathau o wastraff o’r diwydiant adeiladu.

• I roi hawl i’r Llywodraeth osod targedau statudol i awdurdodau lleol ar gyfer ailgylchu a chompostio.

• I gefnogi’r cynllun codi tâl am fagiau plastig, gan sicrhau bod yr arian yn mynd at brosiectau amgylcheddol.