Mae Bradley Pryce yn ffyddiog y bydd yn gallu dial ar un o’i elynion yn y sgwâr bocsio mewn cystadleuaeth yn Llundain nos Wener.
Fe gollodd Pryce i Neil Sinclair saith mlynedd yn ôl, ond mae’n credu y bydd canlyniad yn un gwahanol iawn y tro hwn yn ystod noson Prizefighter.
“Ches i ddim ond wyth diwrnod i baratoi ar gyfer yr ornest yn erbyn Sinclair tro diwetha’,” meddai Pryce.
“Ro’n i fel bachgen yn wynebu dyn… ond fe fydd pethau’n gwbwl wahanol y tro hwn.”
Ffefryn
Bradley Pryce yw’r ffefryn i ennill cystadleuaeth boblogaidd Prizefighter sy’n cael ei chynnal yn Bethnall Green.
Mae’r Cymro yn ymdrechu i ail-afael yn ei yrfa o ddifri’ ar ôl colli ei deitl pencampwr y Gymanwlad i Mathew Hall fis Mawrth diwetha’.
Fe fydd Pryce yn gobeithio efelychu ei ffrind, Gavin Rees, a enillodd y Prizefighter diwetha’ ym mis Rhagfyr.
‘Gambl’
Mae Pryce yn cyfaddef nad ef yw’r paffiwr gorau ar ddechrau gornestau, a’i fod yn fwy cyfforddus yn cystadlu dros 12 rownd.
“Ni fyddai neb yn gweld y rownd ola’ mewn gornest 12 rownd yn fy erbyn i. Rwy’n dechrau’n araf ac yn cryfhau’n ddiweddarach.
“Mae’r ornest hon yn gambl enfawr, ond mae’n rhaid i mi fod â ffydd fy mod i’n gallu maeddu pawb arall, ac rwy’n gwybod y galla’ i wneud hynny.”