Mae grwp sy’n ymgyrchu’n erbyn cynlluniau i ehangu maes awyr Heathrow, wedi mynd â’u hachos at yr Uchel Lys.
Mae’r gwrthwynebwyr, sy’n cynnwys awdurdodau lleol, pobol gyffredin a mudiadau gwyrdd fel Greenpeace a’r Ymgyrch Diogelu Cefn Gwlad Lloegr, yn galw am fwy o ymgynghori ynglyn ag adeiladu trydydd rynwe.
Cafodd caniatâd ei roi i’r cynllun ym mis Ionawr 2009 gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth ar y pryd, Geoff Hoon.
“Annheg”
Dywedodd Nigel Pleming, QC ar ran y gwrthwynebwyr, fod y broses ymgynghori wedi bod yn un annheg, ac nad oedd digon o resymau tros roi’r caniatad cynllunio.
Mae’r gwrthwynebwyr hefyd yn dadlau honni nad yw’r egwyddor o ehangu’r maes awyr yn cyd-fynd â thargedau atal newid hinsawdd Prydain.
Dydyn nhw chwaith ddim yn credu honiad Llywodraeth San Steffan y bydd yna ddigon o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael i wasanaethu’r rhedfa newydd.
Chwalu pentref Sipson
Pe bai’r ehangiad yn digwydd, fe fyddai pentref Sipson, gerllaw, yn cael ei chwalu.
“Byddai trydydd rhedfa nid yn unig yn dinistrio pentref a darn mawr o dir glas, ond hefyd yn dinistrio tawelwch ardal llawer ehangach,” meddai Shaun Spiers, Prif Weithredwr Ymgyrch Diogelu Cefn Gwlad Lloegr.
Mae llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth wedi dweud eu bod yn bwriadu amddiffyn y penderfyniad yn gadarn.