Cynyddu maint testun

Golwg360



Gwaith caled yn mynd â’r paent i’r wal!

Chwefror 23, 2010 18:59

Fe aeth y “treial” o’i le, ond bellach mae artist o Gwm y Glo yng Ngwynedd wedi bod gwneud yn siŵr fod gwaith celf plant Bangor yn addurno twnnel ar un o stadau tai mwyaf y sir.

Fe ddechreuodd y cyfan pan gysylltodd Cyngor Gwynedd a Heddlu Gogledd Cymru gyda’r artist, Glyn Price, yn 2008 a gofyn iddo gynnal gweithdai gyda disgyblion ysgolion cynradd Bangor.

Y bwriad oedd creu murlun y tu mewn i dwnnel Maesgeirchen, a’r murlun hwnnw’n pwysleisio pwysigrwydd diogelwch y ffyrdd.

Mae’r lluniau gan blant ysgolion cynradd Hirael, Llandygai a Glancegin bellach i’w gweld yn y twnnel. Ond cael a chael oedd hi…

Y paent yn rhedeg

Y cam cyntaf oedd i’r plant lunio posteri yn y dosbarth. Yna, yn 2009, fe ddechreuon nhw a Glyn Price drosglwyddo’r lluniau o’r papur i’r wal. Ond, ar ôl gwneud peth o’r gwaith, fe ddechreuodd y paent redeg, ac roedd rhai’n meddwl fod y prosiect ar ben.

Ond, fe wrthododd Glyn Price â derbyn hynny. Ers blwyddyn a hanner, mae ef ei hun wedi bod yn gweithio yn ei amser ei hun yn gorffen, cryfhau ac adfer gwaith y plant yn nhwnnel Maesgeirchen. Ac mae’r gwaith ar y murlun 90 troedfedd bron â gorffen.

“O’n i’n teimlo ei bod hi’n bwysig mynd yn ôl a chryfhau gwaith y plant,” meddai.

“Effaith bositif ar y gymuned”

“Dw i’n gobeithio y bydd y murlun yn rhoi hyder a hunan barch i’r plant sydd wedi cyfrannu tuag at y darn gorffenedig ,” meddai Glyn Price.

“Mae’n grêt gweld plant yn dod â’u rhieni yno i weld y murlun yn datblygu, ac yn hapus i gael gwaith celf yn eu hardal.

“Mae’n bwysig gwneud i blant a phobol ifanc deimlo’n rhan o gymdeithas.

“Mae plant yn agored i syniadau, maen nhw isio gwneud pethau a chymryd rhan.”

Fe fydd Glyn Price yn cwblhau’r murlun y penwythnos hwn.