Fe fydd Cyngor Gwynedd yn trio rhoi gwedd Gymraeg ar un o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw mwya’ gwledydd Prydain.
Fe gyhoeddodd y BBC heddiw y bydd Big Weekend Radio 1 yn mynd i Barc y Faenol ger Bangor ym mis Mai eleni.
Fe fydd 40,000 o docynnau’n cael eu rhoi am ddim ar gyfer yr ŵyl ddeuddydd, gyda’r rhan fwya’n mynd i bobol leol.
Roedd darlledwr mwya’ poblogaidd Radio 1, Chris Moyles, yn y Faenol heddiw i wneud y cyhoeddiad, sydd wedi cael croeso mawr gan gynghorwyr Gwynedd.
‘Cyfle lleol’
“Mae hwn yn llawer mwy na darllediad byw fydd yn cael ei glywed ar draws y byd – mae hefyd yn ddigwyddiad efo llu o weithgareddau ymylol ac mae modd i ni roi blas Cymraeg yr ardal arno fo,” meddai’r Cynghorydd John Wyn Williams, sy’n cynrychioli’r ward lle mae’r Faenol.
“Gobeithio y bydd bandiau Cymraeg yn cael lle teilwng hefyd ac mi fydd Cyngor Gwynedd yn manteisio’n llawn ar y cyfle i sôn am gyfleon gwaith i bobol ac i atgoffa pawb lle mor dda ydi Cymru i fyw a gweithio.”
Fe fydd y gwaith paratoi yn creu cyfle i fusnes hefyd, meddai Plaid Cymru, sy’n arwain y Cyngor. Y disgwyl yw y bydd tua 200 o staff yr orsaf radio yn ymweld â’r ardal yn gyson ac fe fydd newyddiadurwyr cerddoriaeth yn teithio draw.
Maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd pobol leol yn cael cyfle i weithio ar y maes, gydag arlwyo a gwasanaethau eraill ac y bydd yna gyfle am brofiad gwaith i bobol ifanc sydd eisiau mynd i fyd darlledu.
Y Faenol hefyd yw cartre’ Gŵyl Bryn Terfel – fe fethodd honno â chael ei chynnal y llynedd a does dim sicrwydd eto a fydd yn digwydd eleni.
Llun: Chris Moyles (Trwydded GNU)