Cynyddu maint testun

Golwg360



Eisteddfod Gadeiriol Llanegryn 2010

Chwefror 24, 2010 17:20

Llwyddiant – “eto eleni” meddai’r Eisteddfod

Er gwaethaf y tywydd oer, cafwyd “cystadlu cyson o fore gwyn tan nos” yn Eisteddfod Gadeiriol Llanegryn, 2010, meddai’r Eisteddfod.

“Gwerthfawrogwyd ymdrech y cystadleuwyr o bell ac agos i fod yn bresennol” meddai Bethan Davies, ysgrifenyddes Eisteddfod Gadeiriol Llanegryn 2010.

Menna Medi oedd enillydd y Gadair am gerdd ar y testun ‘Gobaith.’ Cafodd gadair fechan dderw o wneuthuriad y saer ifanc lleol, Aled Llyr Davies. Hi hefyd oedd enillydd y gystadleuaeth rhyddiaith agored ar y testun ‘Trobwynt.’

Eleni, fe wnaeth Cadeirydd y pwyllgor – Sulwyn Jones ymddeol ar ôl sawl blwyddyn o wasanaeth. Cafodd beintiad o waith yr arlunydd Eleri Davies, Llanegryn gan bwyllgor yr Eisteddfod.

Y beirniaid eleni oedd Dafydd Lloyd Jones, Dr. Rhiannon Ifans ac Eleri Roberts a Jean Bennett, Tywyn oedd Llywydd y dydd.

Meddai Bethan Davies, ysgrifenyddes yr eisteddfod:

“Dymuna’r pwyllgor ddiolch iddi am ei chyfraniad anrhydeddus i goffrau’r Eisteddfod ac i bawb arall am bob rhodd a gweithred a sicrhaodd lwyddiant y diwrnod unwaith eto eleni.”

Canlyniadau llawn Eisteddfod Llanegryn