Cynyddu maint testun

Golwg360



Gwobrwyo’r gwahanol

Chwefror 25, 2010 10:31

Mae beirniaid Cân i Gymru eleni wedi penderfynu rhoi gwobr arbennig i gyfansoddwyr cân seicadelig sy’n cynnwys y geiriau ‘gwn banana’.

Er nad ydi ‘Gynna’ i Ofn’ ymysg yr wyth fydd yn cystadlu am y brif wobr yn y ffeinal yn Venue Cymru yn Llandudno nos Sul, mi fydd y gân yn cael ei pherfformio ar y rhaglen gan Swci Boscawen.

Yn ôl Cadeirydd y Beirniaid roedden nhw’n awyddus i gydnabod camp Eilir Pierce a Seiriol Davies, cyfansoddwyr ‘Gynna’i Ofn’.

“Wnaethon ni eistedd lawr fel panel cyn Dolig a gwrando ar yr holl geisiadau, 115 o ganeuon i gyd, ac roedd ‘Gynna’ i Ofn’ mor wahanol i’r gweddill,” meddai Owen Powell oedd yn arfer chwarae’r gitâr yn Catatonia.

“Pan wnaethon ni glywed o, roedd yn swnio’n syth fel rhywbeth o’r 1960au… seicadelia Saesneg.

“Mae o’n wahanol i seicadelia Americanaidd fel Jimi Hendrix, The Byrds a’r Grateful Dead. Mae seicadleia Saesneg fwy barddonol, pastral, fatha Pink Floyd cynnar,” meddai.

‘Ddim yn ganol y ffordd’

“Mae hi’n gân eithaf heriol a hectig,” ychwanega Owen Powell, sy’n credu bod ‘Gynna’ i Ofn’ yn haeddu clod.

“Efo’r wobr arbennig yma, y ffordd orau o’i esbonio fe yw hyn… yn y Cannes Film Festival maen nhw’n gwobrwyo’r ffilm orau, wedyn yn gwobrwyo rhywbeth gwahanol.

“Mae ‘Gynna’ i Ofn’ yn rhywbeth fydde ddim yn ffitio fewn i’r brif raglen, rhywbeth ni ddim wedi clywed o’r blaen,” meddai Owen Powell, sy’n cydnabod fod Cân i Gymru eleni’n elwa o bresenoldeb rhai o gyfansoddwyr cool Cymru.

“Mae lot o ganeuon eleni sydd ddim yn ganol y ffordd,” meddai.


Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Y Babell Roc, Golwg, Chwefror 25