Mae disgwyl adroddiad ar ddyfodol addysg sir Geredigion ddechrau mis nesaf allai chwyldroi addysg mewn ardaloedd gwledig.
Mae trafodaethau eisoes wedi’u cynnal yn ardal Tregaron a Llandysul ynglŷn â chyfuno ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd ar un safle.
Byddai’r ysgolion mawr newydd yn cynnig addysg i blant rhwng tair a 19 oed.
Y cynllun yn Nhregaron yw dod â disgyblion saith o ysgolion cynradd yr ardal ynghyd ar safle’r ysgol uwchradd yn y dre.
“Byddai hyn yn creu ysgol hyfyw a chynaliadwy, gan ostwng rhai o’r costau uned uchaf yn y sir,” yn ôl y cyngor.
“Mae llai o bobol ifanc gyda ni,” meddai’r Cynghorydd Ceredig Davies. “Bydden i’n hoffi gweld symudiad mor fuan ag sy’n bosib er mwyn cefnogi addysg cefn gwlad.”
Esiampl yr Alban
Bedair blynedd yn ôl aeth grŵp o benaethiaid a swyddogion o Geredigion i’r Alban er mwyn gweld y dyfodol addysgol yno.
Yn nhre’ wledig Auchterarder ger Dunblane roedd ysgol yn dysgu plant 3-19 oed wedi ennill ei phlwy’.
“Roedd yr adnoddau yn ffantastig,” meddai John Jones, Pennaeth Ysgol Gynradd Tregaron sydd ers yr ymweliad wedi paratoi adroddiad ar gyfer ei ardal ei hun.
“Roedd ysgolion cyfagos yn dweud eu bod nhw lawr i 20 o blant, ac yn holi os allen nhw fynd draw i’r ysgol newydd.
“Dw i’n gwybod bod penaethiaid yn meddwl fy mod i eisiau cau’r ysgolion bach – ond dw i ddim eisiau gwneud hynny.
“Y cyfan dw i eisiau gwneud yw datblygu’r addysg yn Nhregaron.”
Cewch ddarllen weddill yr erthygl yn Golwg, Chwefror 25