Cynyddu maint testun

Golwg360



Doctor, doctor, dowch adre’

Mawrth 1, 2010 14:33

Mae’r corff sy’n edrych ar ôl buddiannau meddygon yn galw ar i fyfyrwyr sydd wedi gadael Cymru i hyfforddi, i ddod adre’ i weithio fel meddygon.

A hithau’n Ddydd Gwyl Dewi, mae BMA Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cysylltu gyda phob ysgol yng Nghymru er mwyn trio dal gafael ar y myfyrwyr hynny sydd ar fin mynd i golegau meddygol yn Lloegr a thu hwnt.

Ac os ydyn nhw eisoes wedi gadael gwlad eu tadau i gael eu hyfforddi, fe fydd yna apêl ar iddyn nhw ddychwelyd i Gymru i weithio.

Pecyn

Fe fydd pob darpar-feddyg yn derbyn pecynnau gwybodaeth sy’n sôn am golegau hyfforddi yng Nghymru, ynghyd â phosteri i’w hatgoffa am Gymru i’w gosod ar y wal mewn colegau meddygol.

Mae’r ymgyrch yn ceisio taclo’r prinder meddygon o bob math – o juniors i arbenigwyr – yng Nghymru.

Mae’r BMA hyd yn oed wedi sefydlu grwp Facebook, sy’n help I’r myfyrwyr hynny sydd wedi gadael Cymru i gadw mewn cysylltiad â meddygon eraill gartre’.