Cynyddu maint testun

Golwg360



Cymro ‘Parc Nest’ yng nghwch Rhydychen

Mawrth 1, 2010 15:45

Fe fydd Cymro â’i wreiddiau yng Nghastellnewydd Emlyn yn cystadlu yn ras gychod Rhydychen a Chaergrawnt eleni. Mae Ben Myers hefyd yn gyfyrder i Archdderwydd nesaf Cymru.

Mae’r myfyriwr 20 oed o Kinsgton-upon Thames wedi cael ei gynnwys yn nhîm Rhydychen ar gyfer y ras flynyddol sy’n cael ei chynnal ar yr afon Tafwys ar Ebrill 4.

Mae Ben Myres wedi cystadlu i Gymru mewn amryw o gystadlaethau ers 2007. Er na chafodd ei fagu yng Nghymru, na chael ysgol na chapel Cymraeg, mae’n medru’r iaith. Mae ei fam, Susan, yn gyfnither i frodyr Parc Nest – yr Archdderwydd etholedig, T James Jones; John Gwilym Jones ac Aled Gwyn.

Fe gynrychiolodd Gymru yng nghystadleuaeth regata’r Gwledydd Cartref yn 2007 a 2009; ac fe fu’n aelod o dîm ieuenctid Cymru a enillodd y teitl am y tro cyntaf yn 2008 yn ogystal â thîm dan 23 oed yn 2009.

Criwiau’r cychod

Rhydychen – Ben Myers, Martin Walsh, Tyler Winklevoss, Cameron Winklevoss, Sjoerd Hamburger, Matt Evans, Simon Gawlick, Charlie Burkitt, Adam Barhamand

Caergrawnt – Rob Weitemeyer, Fred Gill, Code Sternal, Peter McCelland, George Nash, Deaglan McEachern, Derek Rasmussen, Henry Pelly, Ted Randolph