Mae’n rhaid cymryd y penderfyniad i gau ysgolion yn gynt, yn ôl y Gweinidog Addysg Leighton Andrews.
Dywedodd bod oedi’n creu mwy o ansicrwydd nag sydd rhaid ynglŷn â dyfodol ysgolion.
“Dw i’n credu bod ein proses ni ar gyfer penderfynu a fydd ysgol yn cau yn cymryd yn rhy hir,” meddai.
“Mae yna resymau da dros gymryd ein hamser i asesu cynigion sydd wedi cael eu gwrthwynebu… Ond, rhaid i ni edrych ar y sustem a dw i yn credu ei bod yn rhy araf.”
Anodd
Dywedodd Leighton Andrews ei fod wedi trafod y mater yn syth ar ôl cael ei benodi’n weinidog addysg.
“Yn y pen draw mae’n broses anodd i gymunedau, athrawon, awdurdodau lleol a chyrff llywodraethwyr ac, wrth gwrs, i ddisgyblion.
“Po hiraf y mae’n ei gymryd i ni wneud penderfyniad, mwyaf o ansicrwydd sydd ynglŷn â’r ysgol.
“Mae pobol eisiau gwybod ein bod ni’n penderfynu o’u plaid nhw, ond os nad yw hynny’n bosib o leiaf fe allwn ni benderfynu’n gyflym.”
Y drefn
Mae cynghorau ledled Cymru wedi wynebu gwrthwynebiad chwyrn gan rieni wrth geisio cau ac aildrefnu ysgolion.
Mae’n bosib iddyn nhw gyfeirio cynlluniau dadleuol i gau ysgolion at weinidogion os oes gwrthwynebiad.
Fis Tachwedd diwethaf dywedodd y cyn Brif Weinidog Rhodri Morgan ei fod yn disgwyl i tua 170 o ysgolion gau oherwydd cwymp yn nifer y disgyblion.