Cynyddu maint testun

Golwg360



McCartney’n canu yn y Stadiwm

Mawrth 2, 2010 13:46

Mae Paul McCartney wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal gig yn Stadiwm y Mileniwm fis Mehefin eleni.

Bydd tocynnau ar werth am 9am ar 8 Mawrth i’r sioe ar 26 Mehefin ac mae’r trefnwyr yn disgwyl iddyn nhw fynd yn gyflym.

Mae’r ymweliad yn un o bedair sioe fawr awyr agored gan y Beatle ar draws gwledydd Prydain.

Y tro diwethaf iddo chwarae yng Nghymru oedd yng Nghaerdydd ym mis Medi 1979, gyda’i fand, Wings.

‘Rocio’

Bydd yn dechrau’r daith yng Ngŵyl Ynys Wyth, cyn symud i Hampden Park yng Nglasgow, yna i Gaerdydd, cyn gorffen yn Hyde Park, Llundain.

Mae Paul McCartney wedi dweud ei fod o a’i fand wedi bod yn edrych ymlaen at gael chwarae yn Stadiwm y Mileniwm ers amser hir, a’u bod nhw’n ysu i gael “rocio” yno.

“R’yn ni eisiau noson na fydd neb yn ei anghofio,” meddai.

Dywedodd un o reolwyr yn Stadiwm y Mileniwm, Alex Luff, bod sicrhau’r gig yn bluen fawr yn het y stadiwm.