Mae ymddiriedolaeth iechyd wedi cyhoeddi ymchwiliad ar ôl i’r nenfwd gwympo mewn ward yn Ysbyty Treforys Abertawe.
Dywedodd yr ymddiriedolaeth iechyd bod darn o’r nenfwd, yn ogystal â chardfwrdd, dŵr a rwbel wedi disgyn i lawr.
Chafodd neb ei anafu ar Ward B ar ôl i’r staff frysio i achub pum claf. Roedd pibell ddŵr yn cael ei thrwsio ar y pryd.
Mewn datganiad dywedodd Ymddiriedolaeth Abertawe Bro Morgannwg bod y pum claf wedi eu symud i welyau eraill.
“R’yn ni wedi ymddiheuro am y digwyddiad anffodus,” meddai llefarydd. “Mae’r ward yn cael ei glanhau a’i thrwsio’n awr.”