Cynyddu maint testun

Golwg360



£1.3 miliwn i ymladd hepatitis yng Nghymru

Mawrth 2, 2010 15:41

Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cyhoeddi buddsoddiad o £1.37 miliwn tuag at ymladd achosion hepatitis yng Nghymru.

Bydd yr arian yn rhoi cynllun ar waith er mwyn amddiffyn y sawl sydd mewn peryg o ddal hepatitis, er mwyn atal ymlediad pellach.

Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i wella’r gofal ar gyfer pobol sydd eisoes yn dioddef o’r haint.


Y cynllun

Cafodd y cynllun ei ddatblygu gan y corff cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru, â’r amcan fydd:

• Lleihau nifer yr achosion o drosglwyddo hepatitis sy’n cael ei gludo yn y gwaed

• Dod o hyd i bobol sydd ddim yn ymwybodol fod ganddyn nhw’r haint

• Gwella’r driniaeth a’r cymorth sydd ar gael i’r sawl sydd wedi eu heintio

‘Oblygiadau iechyd mawr’

Mae Gweinidog Iechyd y Llywodraeth, Edwina Hart, wedi dweud fod gan hepatitis “oblygiadau mawr i iechyd yr unigolyn”, yn ogystal â “iechyd pobl eraill os na fydd yn cael ei ganfod”.

“Drwy ymyrryd yn gynnar” meddai, “yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth, gobeithio y gwelwn ni lai o achosion o hepatitis yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”

Ond dywedodd hefyd fod “yna fwy o her” oherwydd bod y grwpiau sydd mewn peryg o gael eu heintio yn gallu bod yn rai bregus, wedi eu “cau allan” o gymdeithas.

Hepatitis

• Mae hepatitis yn trosglwyddo o berson i berson, gan amlaf drwy ddod i gysylltiad â gwaed sydd wedi ei heintio.

• Mae hepatitis B a C yn gallu achosi clefydau difrifol iawn, ac yn gallu lladd.

• Mae’r perygl o ddal hepatitis B ac C yn cynyddu os yw pobl yn defnyddio nodwyddau i chwistrellu cyffuriau, neu yn cael rhyw yn ddiamddiffyn.

• Yn ôl y Llywodraeth, mae rhwng 12,000 a 14,000 o bobl yng Nghymru wedi cael eu heintio’n wael â hepatitis C, ond dyw’r rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn ymwybodol fod ganddyn nhw’r haint.