Cynyddu maint testun

Golwg360



Cymry Cymraeg ar frig Twitter

Mawrth 2, 2010 15:52

Mae Cymry Cymraeg wedi bod yn heidio i ddefnyddio Twitter dros y misoedd diwethaf ac maen nhw wedi dechrau gadael eu marc ar y wefan.

Dydd Iau llwyddodd ‘Elfyn Llwyd’ i ddringo i frig tabl Twitter o bynciau mwyaf llosg ym Mhrydain – yn dilyn ei ymddangosiad ar Question Time o Gaerdydd.

Nos Sul roedd ‘Gymru’ wedi cyrraedd 10 uchaf pynciau llosg y safle wrth i wylwyr S4C roi eu barn – lled negyddol – ar ganeuon rhaglen Cân i Gymru’r noson honno.

Mae gan Twitter tua 5 miliwn o ddefnyddwyr ledled y byd, a tua 500 o’r rheini yn siaradwyr Cymraeg.


Rhai o’r sylwadau (fel mae nhw i’w gweld ar Twitter):

“can some one tell my why gymru is trending! i’m 100% sure cymur is wales not gymru!” – digitalmaggot

“be digwyddodd i WAW factor? lot well na Can i Gymru!” – Actif247

“Can i Gymru gorau erioed…dylid cael live Twitter feed yn mynd ar hyd gwaelod y sgrin.” – Rhodri007

“Catrin and I have decided to enter Can i Gymru next year. I really can’t see how we can fail judging by this year’s standard so far.” – rhys_evans

“Dwi’n ofni nad ydw i’n mynd i gyrraedd adref o’r eglwys mewn amser ar gyfer Can i Gymru” – Dogfael

“The only Can I Gymru worth bothering with is the song by Datblygu.” – davidwrench

Ffrwd newyddion twitter Golwg 360

(Llun: Hedd Gwynfor)