Bydd cynnig mwy o gyrsiau i ddisgyblion yn yr ysgol a’r coleg yn helpu Cymru i gystadlu gyda gwledydd eraill, yn ôl y Prif Weinidog Carwyn Jones.
Dywedodd nad oedd Cymru wedi cynhyrchu graddedigion gydag ystod digon eang o sgiliau yn y gorffennol.
Roedd yna ddiffyg arbenigwyr technoleg gwybodaeth oedd yn siarad mwy nag un iaith Ewropeaidd, meddai – arwydd bod myfyrwyr yn tueddu i arbenigo mewn un pwnc yn unig.
Byddai darparu mwy o ddewis pynciau i ddisgyblion rhwng 14 a 19 oed yn datrys y broblem, meddai wrth ACau yn y Senedd.
Cau’r bwlch
Heriodd arweinydd yr wrthblaid Nick Bourne y Prif Weinidog gan ddweud bod safon yr addysg yng Nghymru ar ei hôl hi o’i gymharu â gwledydd eraill fel Slofacia a Gwlad Pwyl.
Dim ond 57% o ddisgyblion oedd yn cael pump neu fwy o raddau TGAU A-C yng Nghymru o’i gymharu â 70% yn Lloegr, meddai.
“Beth ydach chi’n mynd i’w wneud i sicrhau nad yw’r bwlch yn agor hyd yn oed yn fwy, fel y mae o wedi gwneud dan Lafur, a’i fod o’n dechrau cau?” gofynnodd.
Dywedodd Carwyn Jones y byddai’r Mesur Dysgu a Sgiliau yn cynnig mwy o ddewis i ddisgyblion, pe bai nhw’n byw mewn ardaloedd gwledig neu ddinesig.
“Mae’n bwysig bod disgyblion yn gweld dewis eang o’u blaen nhw a’u bod nhw’n teimlo’n frwdfrydig ynglŷn â dysgu,” meddai Carwyn Jones.
“Yr her fawr sy’n ein hwynebu ni dros y pump neu ddeng mlynedd nesaf yw culni’r sylfaen sgiliau.
“Mae gennym ni sustem addysg sydd ddim yn cynhyrchu pobol sydd â’r ystod eang o sgiliau sydd eu hangen mewn economi byd-eang.”