Cynyddu maint testun

Golwg360



Gaeaf oeraf Cymru ers 1979

Mawrth 2, 2010 16:16

Y gaeaf eleni oedd yr oeraf yng Nghymru ers 30 mlynedd, yn ôl ffigyrau y Swyddfa Dywydd.

Tymheredd cymedrig Cymru rhwng 1 Rhagfyr a 24 Chwefror oedd 2.09 gradd, yr oeraf ers 1.64 gradd gaeaf 1978-79.

Oeraf yn yr Alban

Yr Alban oedd y wlad oeraf yng ngwledydd Prydain dros y gaeaf, gyda thymheredd cymedrig o 0.24 gradd, yr oeraf ers 0.16 gradd gaeaf 1962-63.

• Yn Lloegr, y tymheredd cymedrig oedd 2.12 gradd, yr oeraf ers yr 1.43 gradd 1978-79.

• Yng Ngogledd Iwerddon, y tymheredd cymedrig oedd 2.05 gradd, yr oeraf ers 1.51 gradd 1962-63.

• Ar draws Prydain y tymheredd cymedrig oedd 1.51 gradd, yr oeraf ers 1.17 gradd gaeaf 1978-79.