Cynyddu maint testun

Golwg360



Ceredigion – rhieni’n mynd i gynnig deiseb

Mawrth 2, 2010 17:00

Bydd deiseb yn cael ei chyflwyno yfory gan rieni sy’n anhapus gyda cynlluniau arfaethedig Awdurdod Addysg Ceredigion i gau nifer o ysgolion gwledig y sir.

Mae ofnau y byddai gwireddu’r cynlluniau yn peryglu dyfodol cymunedau a’r iaith Gymraeg, yn ogystal â mynd yn groes i gynllun amgylcheddol y Cyngor Sir ei hun.

Cyfuno

Mae’r Awdurdod Addysg yn ystyried ceisio arbed ar yr arian sy’n cael ei wario ar addysg yn ardaloedd Llandysul a Thregaron, drwy gyfuno ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd mewn un safle.

Mae yna hefyd gynllun peilot blwyddyn yn Llanbed fydd yn golygu bod prifathro yr Ysgol Uwchradd hefyd yn gyfrifol am yr Ysgol Gynradd.

Ond mae nifer o’r rhieni a fyddai’n cael eu heffeithio gan y cynlluniau yn ardal Llandysul yn mynd i gyflwyno deisebau i’r awdurdod tu allan i brif adeilad y cyngor ym Mhenmorfa am 4pm, yfory.

Bydd y ddeiseb yn datgan pryder rhieni am y cynlluniau, ac yn annog yr awdurdod i ystyried opsiynau eraill.

‘Gwrthwynebiad cryf’

Yn ôl Angharad Clwyd, sy’n rhiant yn Ysgol Llandysul, ac sy’n gweithio i Gymdeithas yr Iaith, mae gwrthwynebiad cryf i gynlluniau’r Cyngor Sir i gau ysgolion pentref er mwyn creu Ysgol 3-19 oed.

Mae hi’n honni fod rhai cannoedd wedi arwyddo gwahanol ddeisebau sy’n gwrthwynebu’r cynllun arfaethedig.

“Fe fuasai gweithredu cynlluniau’r Cyngor yn cael effaith andwyol ar gymunedau dalgylch Llandysul”, meddai Angharad Clwyd, “gan ddinistrio’r cymunedau gan gynnwys Tref Llandysul ei hun.

“Fe fyddai colli’r ddwy ysgol o’r dref yn effeithio nid yn unig ar fusnesau’r dref ond ar yr ymdeimlad o gymuned.

“Bydd yr effaith ar yr iaith Gymraeg hefyd yn ddifrifol gyda’r plant yn cysylltu’r iaith gydag addysg yn unig a ddim yn rhan o fywyd eu cymuned.

“Yn ychwanegol i hyn oll fe fydd effaith amgylcheddol negyddol, gyda’r cyngor sir yn mynd yn hollol groes i’w strategaeth Cadw’n Iach, gan orfodi plant i deithio mewn cerbydau i’r ysgol ac yn ei wneud yn hollol amhosibl i’r plant gerdded i’r ysgol.”