Mae teidiau a neiniau o deuluoedd tlawd yn dioddef caledi ariannol am eu bod nhw’n gorfod rhoi’r gorau i waith er mwyn gwarchod eu hwyrion ac wyresau.
Yn ôl adroddiad newydd gan yr elusen Grandparents Plus a’r Comisiwn Hawliau Dynol mae un ym mhob tri o deuluoedd yn dibynnu ar deidiau a neiniau i edrych ar ôl eu plant am ddim.
Mae’r adroddiad yn dweud bod teidiau a neiniau o’r teuluoedd mwyaf tlawd yn dod dan fwy a mwy o bwysau i edrych ar ôl plant eu plant, er eu bod nhw’n dal i fod yn oed gweithio eu hunain.
Cael effaith wael
Neiniau o’r dosbarth gweithiol oedd fwyaf tebygol o orfod gofalu am blant am ddim, meddai’r adroddiad.
Roedd gorfod rhoi’r gorau i’r gwaith er mwyn edrych ar ôl plant yn ddi-dâl yn effeithio ar eu hincwm, eu pensiwn a’u hiechyd.
Dywedodd yr elusen Grandparents Plus nad oedd hi’n bosib cysoni ymdrechion y Llywodraeth i annog mwy o rieni sengl a phobol hyn i weithio.
Yn hanner y teuluoedd ble’r oedd rhiant sengl yn gweithio, y teidiau a’r neiniau oedd yn edrych ar ôl y plant.
Mae’r ymchwil hefyd yn dweud bod traean o’r perthnasau a’r ffrindiau sy’n gwarchod plantyn rhoi’r gorau i’w gwaith wrth ddechrau edrych ar ôl plentyn. Mae 30% arall yn lleihau eu horiau gwaith.