Fe fydd prifysgolion Cymru’n gorfod ateb yn well am y £400 miliwn o arian cyhoeddus y maen nhw’n ei dderbyn.
Dyna’r rhybudd wrth i’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, gyhoeddi arolwg o’r sector, yn arbennig o’r ffordd y maen nhw’n cael eu rheoli.
Mae eisiau gweld cynlluniau busnes a rhaglenni dysgu ac ymchwil y prifysgolion yn dod yn nes at anghenion cymunedau lleol, yr economi a myfyrwyr.
Un o feysydd yr arolwg fydd rôl llywodraethwyr y prifysgolion – fe fydd yn gofyn a ydyn nhw’n ddigon cry’ i alw rheolwyr i gyfri’ ac a oes digon o aelodau annibynnol arnyn nhw.
Yn ôl yn yr hydref, roedd y Gweinidog Addysg ar y pryd, Jane Hutt, wedi rhybuddio y byddai’n rhaid i brifysgolion newid – fe ddywedodd Leighton Andrews yr un peth ddoe.
“Mae addysg uwch yn derbyn mwy na £400 miliwn y flwyddyn o arian cyhoeddus,” meddai. “Dw i eisiau gwneud yn siŵr eu bod nhw’n atebol am yr arian hwnnw.”
Llun: Prifysgol Caerdydd