Cynyddu maint testun

Golwg360



Gobaith y bydd Tiger Woods yn ôl yn fuan

Mawrth 3, 2010 13:05

Mae yna si ar led y gallai Tiger Woods ddychwelyd i fyd golff yn gynt na’r disgwyl, a chymryd rhan yng Nghwpan Ryder Cymru ym mis Hydref.

Mae’r seren golff wedi dychwelyd i’w gartref yn Florida ac yn ôl ei gymdogion mae o wedi ei weld yn chwarae golff eto am y tro cyntaf ers tri mis.

Dywedodd ei gyd chwaraewr Charles Howell ei fod o “wedi treulio awr [gyda Tiger Woods] ddoe” a’i fod o’n chwarae “cystal ag erioed”.

“Roedd o’n edrych fel pe bai o’n eu taro nhw gystal ag erioed,” ychwanegodd.

Pythefnos yn ôl fe ddaeth Tiger Woods yn ôl i’r amlwg wedi cyfnod i ffwrdd yn dilyn y newyddion ei fod o wedi bod yn anffyddlon i’w wraig gyda chyfres o ferched gwahanol.

Ar y pryd dywedodd ei fod o “eisiau dychwelyd i fyd golff ryw ddydd, ond dw i ddim yn gwybod pryd”.

Roedd hynny wedi arwain at ddyfalu na fyddai’n cael ei gynnwys yn nhîm yr Unol Daleithiau ar gyfer y Cwpan Ryder yn y Celtic Manor ger Casnewydd.

Bellach mae yna sôn y gallai gystadlu mewn cystadleuaeth yn Fflorida o fewn y pythefnos nesaf.