Mae Prif Weinidog Cymru wedi gwahodd Pab Bened XVI i ymweld â Chymru pan fydd e’n dod i’r DU ar ymweliad swyddogol yn nes ymlaen eleni.
Mewn llythyr at yr Archesgob Faustino Sainz Muñoz, Nuncio Apostolaidd Prydain dywedodd Carwyn Jones ei fod o’n gwahodd y Pab i Gymru.
“Roedd ymweliad diwethaf y Pab â Chymru yn 1982 yn llwyddiant mawr,” meddai Carwyn Jones yn y llythyr.
“Ond roedd hynny dros 25 mlynedd yn ôl ac mae tirlun gwleidyddol, cymdeithasol a chrefyddol y Deyrnas Unedig wedi newid yn fawr ers hynny.
“Yng Nghymru yn enwedig, mae nifer o newidiadau mawr wedi digwydd – un o’r prif newidiadau yw dyfodiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’n synnwyr cynyddol o hunanhyder fel cenedl.”
Fe wnaeth y Pab Ioan Pawl II ymweld â Chaerdydd ar 2 Mehefin 1982.
‘Llawenydd mawr’ i’r Genedl
“Fel y gwelsom yn 1982, mae ymweliad Pabyddol yn ddigwyddiad o lawenydd mawr a balchder, nid yn unig i gymuned Gatholig Cymru, ond ar gyfer y genedl gyfan.
“Dw i’n sylweddoli y bydd gan y Pab raglen brysur iawn yn ystod ei ymweliad, ond gan taw dim ond yr ail ymweliad Pabyddol â’r Deyrnas Unedig fyddai hyn mewn bron i 500 mlynedd, fe fyddai’n siom i bobl Cymru golli digwyddiad hapus a hanesyddol fel hwn.”
Mae disgwyl i’r Pab ymweld â Lloegr a’r Alban ym mis Medi.