Bydd y signal analog olaf yng Nghymru yn cael ei ddiffodd am byth ddiwedd y mis er mwyn cryfhau’r signal ddigidol.
Mae’r broses o droi signalau 75 o drosglwyddyddion gwahanol, sy’n darparu gwasanaeth ar gyfer 280,000 o gartrefi yn ne ddwyrain Cymru, yn ddigidol wedi dechrau heddiw.
Fe fydd Cymru gyfan yn ddigidol erbyn diwedd y mis, yn ôl Emyr Byron Hughes, Rheolwr Cenedlaethol Digital UK ar gyfer Cymru.
“Mae’r newid terfynol yng Nghymru bellach wedi dechrau, a bydd y signalau analog terfynol yn cael eu diffodd ar 31 Mawrth,” meddai.
“Dylai unrhyw un sydd angen cyngor yn ystod y cyfnod hwn gysylltu â Digital UK neu gofrestru ar gyfer y Cynllun Cymorth os ydynt yn gymwys.”
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio gyda Digital Uk i godi ymwybyddiaeth o’r newid.
“Nawr bod y newid terfynol ar y gweill, hoffwn annog pawb i wneud yn siŵr bod ganddynt yr offer cywir fel eu bod yn gallu derbyn y gwasanaeth digidol llawn,” meddai.