Cynyddu maint testun

Golwg360



Arbenigwr o Aberystwyth yn arddangos ei waith ar y blaned Mawrth

Mawrth 3, 2010 16:53

Fe fydd arbenigwr ar y blaned Mawrth o Brifysgol Aberystwyth yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth fawreddog ym Mhalas Westminster yr wythnos nesaf.

Mae Stephen Pugh o’r Adran Cyfrifiadureg wedi ei wahodd i gyflwyno ei waith i gystadleuaeth SET for Britain.

Nod y gystadleuaeth yw gwobrwyo gwaith ymchwil gwyddonwyr, peirianwyr a thechnolegwyr sydd yng nghyfnod cynnar eu gyrfa.

Cafodd ei wahodd yn sgil ei waith ymchwil ar gyfer cynllun ExoMars – prosiect gwerth €1 biliwn sy’n cael ei arwain gan Asiantaeth Gofod Ewrop, ar y cyd â NASA.

Bydd Stephen Pugh yn cyflwyno’r robot a fydd yn cael ei anfon i’r blaned goch yn 2018 er mwyn tynnu lluniau a ceisio darganfod arwyddion o fywyd yno.

Bydd hefyd yn cyflwyno ei waith ymchwil sy’n ymwneud â rheoli’r camerâu a fydd yn cael eu defnyddio gan y robot.

Dywedodd Stephen Pugh bod ei waith yn canolbwyntio’n bennaf ar ddysgu’r robot i anelu’r camerâu at dargedau penodol ar ei ben ei hun.

“Dw i hefyd yn asesu sut mae danfon delweddau yn ôl i’r Ddaear o fewn yr amser byrraf posib,” meddai.

“Y nod yw gallu anfon lluniau yn ôl o fewn un diwrnod yn hytrach na thridiau, gan roi gwybod i ni’n gynt beth yw amgylchiadau’r cerbyd a’r hyn sydd, yn y bôn, yn amgylchedd dieithr iawn i ni.”

Mae Pennaeth Gwyddor y Gofod a Roboteg Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Dave Barnes, wedi dweud fod y gystadleuaeth yn un o fri, a bod y cystadleuwyr yn cael eu dethol ar sail y gwaith ymchwil gorau posib.

“Rydw i wrth fy modd fod Stephen wedi’i ddewis i arddangos ei waith,” meddai.