Mae artist a fu’n ddraenen yn ystlys Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymuno â’r sefydliad.
“Rwy’ wedi beirniadu’r Cyngor Celfyddydau gymaint,” meddai Osi Rhys Osmond sydd newydd ei benodi yn un o chwe aelod newydd o Fwrdd y Cyngor.
“Rwy’ wedi gofyn pam maen nhw’n gwneud pethau, beth yw eu polisi, beth maen nhw’n ei wneud gyda’u polisi. O’n i eisiau syniad beth mae e fel ar ochr arall y ffens.”
Mae’r arlunydd a gafodd ei fagu yn Wattsville yng Nghwm Sirhywi, ond sydd bellach yn byw yn Llansteffan, Sir Gâr, yn un o enwau amlyca’r sin gelf yng Nghymru.
Yng nghylchlythyr Newyddion Celf yr Eisteddfod, mae’n cael ei alw yn “un o sylwebyddion mwya’ di-flewyn-ar-dafod y sin gelf yng Nghymru”.
Fe fydd yn cymryd ei le ar Fwrdd Cyngor Celfyddydau Cymru ar Ebrill 1.
Y stori’n llawn yn Golwg yr wythnos yma