Mae “casgliad rhyfeddol” o lyfrau prin wedi cael ei achub rhag cael eu chwalu a gadael Cymru.
Ac mewn papur bro Cymraeg y dechreuodd yr ymgyrch gyhoeddus i rwystro Cyngor Caerdydd rhag gwerthu llyfrau sy’n ei gosod ymhlith un o ddinasoedd dysg gorau Ewrop.
Yn Y Dinesydd y cyhoeddodd yr ysgolhaig E. Wyn James lythyr yn tynnu sylw at y bygythiad i’r casgliad sydd bellach wedi ei brynu gydag £1.2 miliwn o arian cyhoeddus.
“Mae’n newyddion ardderchog i bobol Caerdydd, i bobol Cymru ac i’r byd academaidd yn rhyngwladol,” meddai Wyn James heddiw.
Casgliad rhyfeddol
Mae’r casgliad yn cynnwys:
• 175 o lyfrau a oedd wedi eu hargraffu cyn 1500 – yn yr hanner canrif cynta’ ar ôl dyfeisio’r wasg argraffu.
• Casgliad ardderchog o gopïau cynnar iawn o ddramâu Shakespeare ac un o’r casgliadau gorau yng ngwledydd Prydain o ddramâu diwedd yr 17eg ganrif.
• Yn ogystal â thua 500 o Feiblau prin, mae yna gasgliadau o lyfrau cain, cyfyngedig o’r 19eg a’r 20fed ganrif.
‘Neb yn gofyn amdanyn nhw’
Fis Medi diwetha’ roedd y Cyngor yn barod i ddechrau gwerthu’r llwyth cynta’ o’r llyfrau gan ddweud nad oedd eu hangen “am nad oedd neb yn gofyn amdanyn nhw”.
Doedd llawer o’r llyfrau mwya’ prin ddim hyd yn oed wedi’u rhestru, a hynny’n golygu nad oedd neb yn gwybod am eu bodolaeth nhw.
Bellach, fe fyddan nhw’n cael eu cadw yn Llyfrgell Gelfyddydau Prifysgol Caerdydd ar ôl i’r Brifysgol gyfrannu £500,000, y Llywodraeth £450,000 a’r Cyngor Ariannu Addysg Uwch £250,000 arall.
‘Prifddinas dysg’
“Mae hyn yn golygu bod Prifysgol Caerdydd yn llamu i blith rhengoedd blaena’ prifysgolion gwledydd Prydain o ran ei llyfrgell ac yn sicrhau safle Caerdydd yn brifddinas dysg ryngwladol,” meddai Wyn James.
Roedd y llwyth cynta’ ar eu ffordd i Lundain pan ddechreuodd yr ymgyrch.