Cynyddu maint testun

Golwg360



Diwrnod y Llyfr 2010 – “dathliad i’w gofio”

Mawrth 4, 2010 18:46

Mae Diwrnod y Llyfr 2010 wedi bod yn “ddathliad i’w gofio” meddai Cydlynydd y Diwrnod heddiw.

Ben bore, roedd ysgolion o amgylch Cymru wedi cael e-bost yn dymuno Diwrnod y Llyfr hapus iddyn nhw. Roedd yr e-bost hefyd yn eu gwahodd i anfon manylion eu gweithgareddau i wefan y Cyngor Llyfrau Cymru.

Meddai Delyth Humphreys, Cydlynydd Diwrnod y Llyfr 2010, Cyngor Llyfrau Cymru: “Cafwyd ymateb gwych gyda llu o ysgolion yn rhoi gwybod i’r Cyngor Llyfrau sut yr oedden nhw wedi dathlu’r Diwrnod!”

“Arwydd bach” oedd hyn o’r “bwrlwm gweithgareddau” oedd wedi’u cynnal mewn llyfrgelloedd, cylchoedd meithrin, mannau gwaith a chymdeithasau hyd a lled y wlad, yn ôl Delyth Humphreys.

“Fe fu miloedd o blant ac oedolion yn cael blas ar lyfrau ac yn mwynhau gweithgareddau hwyliog ac amrywiol,” meddai.

Ymhlith y cyhoeddiadau, fe ddywedodd Gwasg Gomer eu bod yn cyhoeddi 80 o lyfrau i blant bach am Pentre Bach a chymeriadau Sali Mali.

Mwy am y gweithgareddau fan hyn: http://dyll2010wbd.cllc.org.uk.