Cynyddu maint testun

Golwg360



Galw am uned anafiadau i’r pen ar gyfer pobol ifanc

Mawrth 5, 2010 07:36

Mae mam llanc 17 oed a ddioddefodd niwed difrifol i’w ymennydd mewn ymosodiad yn Mallorca wedi galw am uned arbennig er mwyn trin pobol ifanc gydag anafiadau tebyg.

Cafodd Alex Hughes o Radur yng Nghaerdydd ei anafu’n ddifrifol ar ôl iddo gael ei daro dros ei ben gyda photel y tu allan i glwb nos pan oedd ar ei wyliau fis Awst diwethaf.

Fe fu’n anymwybodol tan fis Medi a bellach mae’n derbyn triniaeth yn Ysbyty Rookwood yng Nghaerdydd. Mae’n gallu siarad rywfaint ond dyw e ddim yn gallu cerdded eto.

Dywedodd ei fam, Helen Hughes, wrth y BBC ei fod wedi ei amgylchynu gan bobol yn eu 70au a’u 80au a’i fod yn “gorwedd ar ei wely wedi diflasu” y rhan fwyaf o’r amser.

Roedd hi’n pryderu y bydd Alex Hughes yn gwella’n arafach oherwydd y diffyg cyffro a galwodd am uned arbennig yng Nghymru ar gyfer cleifion ifanc gydag anafiadau i’r ymennydd, y system nerfol a’r cefn.

“Mae yna bobol ifanc eraill yn Rookwood a dw i’n meddwl y byddai wir yn eu helpu nhw,” meddai.