Mae’n bosib y bydd Plaid Cymru a’r SNP yn yr Alban yn rhoi’r gorau i gefnogi trwydded y BBC ac yn galw am ddatganoli darlledu.
Fe fyddan nhw’n ailedrych yn llwyr ar eu polisïau darlledu yn sgil penderfyniad y darlledwyr i’w cadw nhw allan o ddadleuon teledu’r arweinwyr gwleidyddol.
Maen nhw’n honni bod arweinwyr y tair plaid fawr yn cael 90 munud yr un o amser ychwanegol ar y teledu heb ddim bwriad i roi amser cyfatebol i’r Blaid a’r SNP.
Fe fu arweinwyr y ddwy blaid yn Nhŷ’r Cyffredin yn cyfarfod ddoe i drafod eu hymateb ac maen nhw’n ceisio cael cyfarfod gyda’r darlledwyr hefyd.
“Mae pobol sy’n talu am eu trwyddedau yng Nghymru a’r Alban yn cael eu hatal rhag clywed gan eu pleidiau cenedlaethol yn nadleuon yr arweinwyr,” meddai Elfyn Llwyd, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Achos llys?
Yn ôl papur y Scotsman, mae’r SNP yn dal i ystyried y posibilrwydd o achos llys i geisio rhwystro’r dadleuon rhag cael eu darlledu yn yr Alban.
Roedd arweinydd yr SNP yn San Steffan, Angus Robertson, rhoi’r bai ar “reolwyr Llundeinig” y BBC a’r “pleidiau Llundeinig”.
Ef hefyd oedd yn galw’n glir am ddatganoli darlledu i Senedd yr Alban a’r Cynulliad – mae’r Albanwyr yn teimlo’n gry’ nad ydyn nhw’n cael chwarae teg o dan y drefn deledu’n gyffredinol.
Yn ôl y Scotsman, mae’r BBC wedi gwrthod cyfarfod gyda’r ddwy blaid ond mae’r Gorfforaeth wedi cynnig cynnal dadl rhwng arweinwyr y gwahanol bleidiau yn y ddwy wlad ar wahân.
Gan y byddai’r tair plaid Brydeinig hefyd yn rhan o hynny, dyw’r cynnig ddim yn ateb honiad y pleidiau cenedlaethol o ddiffyg cyfartaledd.
Llun: Elfyn Llwyd