Fe gafodd hanes ei greu a’i ail greu yng nghystadleuaeth ddrama Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.
Fe enillodd Sir Frycheiniog y wobr am ddrama Gymraeg – y tro cynta’ i’r sir gystadlu trwy’r Gymraeg ers o leia’ hanner can mlynedd.
Ar ben hynny, roedd y ddrama’n ymwneud â digwyddiad trawmatig pan gollwyd y Gymraeg o ran helaeth o’r sir. Roedd hi’n edrych ary trychineb trwy lygaid plant.
Roedd rhai o’r actorion yn perthyn i deuluoedd a ddioddefodd bryd hynny – pan drowyd 54 o deuluoedd Cymraeg o’u ffermydd ar fynydd Epynt i wneud lle i faes saethu’r fyddin.
Elin Havard (de) a Louise Williams – roedd ei mamgu wedi ei throi allan o Fynydd Epynt
Roedd mam-gu Louise Williams, er enghraifft, ymhlith y 200 o oedolion a phlant a gollodd eu cartrefi ac roedd hi’n actio rhan merch o’r enw Gwenllian yn y ddrama.
Roedd honno wedi ei chomisiynu’n arbennig ar gyfer y gystadleuaeth a’i sgrifennu gan Betty Davies ac Euros Lewis sydd ill dau â chysylltiadau â’r ardal.
‘Trychineb’
Roedd tad-cu a mam-gu cynhyrchydd y ddrama hefyd yn rhan o’r helynt adeg yr Ail Ryfel Byd – oherwydd y troi allan, fe gollwyd cymunedau Cymraeg gorllewin Sir Frycheiniog ac fe gollwyd yr iaith ymhlith amryw o’r teuluoedd hefyd.
“Mae trychineb Epynt yn fyw iawn i mi, am iddo effeithio’n fawr ar fy mam-gu a’m tad-cu,” meddai Eifiona Roberts. “Rwy’n hynod o falch bod pobol ifanc yr ardal yn cael eu dysgu, neu eu hatgoffa am y drasiedi drwy gyfrwng y ddrama.”
Mae’r gwaith yn rhan o brosiect ehangach i gadw’r cof yn fyw am y digwyddiad a’i effaith ar ddiwylliant, iaith a threftadaeth yr ardal.
Fe ddaeth Sir Frycheiniog yn gynta’ o blith chwech o ddramâu yn y gystadleuaeth genedlaethol.
Llun: Rhys Jones yn actio rhan pregethwr mewn golygfa yn y capel.