Am y tro cynta’ erioed, mae gwraig wedi ennill Oscar y cyfarwyddwr gorau.
A ffilm Kathryn Bigelow, The Hurt Locker, oedd llwyddiant mawr y noson gyda chwe gwobr i gyd, gan gynnwys y wobr fawr am y Ffilm Orau.
Fe gurodd ei cyn-ŵr, James Cameron – dim ond tri Oscar odd i’w ffilm fawr ef, y llwyddiant poblogaidd mawr 3-dimensiwn, Avatar.
Dim gwobr, ond clod, i Carey
Doedd yna ddim gwobr i’r hanner-Cymraes ifanc Carey Mulligan ond fe gafodd air o ganmoliaeth gan Sandra Bullock, enillydd Oscar yr Actores Orau.
“Mae dy osgeiddrwydd, dy urddas, dy harddwch a dy dalent yn fy ngwneud i’n sâl,” meddai yn ei haraith wrth dderbyn y wobr.
Doedd yna ddim ail Oscar, felly, i Helen Mirren yn yr un categori na gwobr i Colin Firth yn adran yr Actor Gorau. Yn ôl y disgwyl, fe aeth honno i Jeff Bridges.
Stori dwy ffilm
Roedd yna wahaniaeth mawr rhwng The Hurt Locker ac Avatar – un yn ffilm gymharol rad am filwyr yn Rhyfel Irac, y llall yn flocbyster drud.
Cymharol ychydig o bobol sydd wedi gweld film Kathryn Bigelow, wrth iddi straffaglu i gael cefnogaeth y dosbarthwyr mawr; mae Avatar wedi torri pob record o ran cynulleidfa ac incwm.
Roedd y ddwy ffilm wedi cael naw enwebiad – ond fe gafodd The Hurt Locker ddwywaith mwy o Oscars nag Avatar.
Llun: Kathryn Bigelow a’i Hoscar