Cynyddu maint testun

Golwg360



Phillips yn aros gyda’r Gweilch

Mawrth 8, 2010 08:37

Caeredin 33 Y Gweilch 17

Mae yna newyddion da i’r Gweilch y bore yma i wneud iawn am grasfa yn yr Alban ddoe.

Fe gyhoeddodd y rhanbarth bod y mewnwr rhyngwladol, Mike Phillips, wedi arwyddo cytundeb newydd am bedair blynedd arall.

Fe ddaw hynny’r bore ar ôl i’r Gweilch gael eu taro o frig Cynghrair Magners wrth golli 33-17 yng Nghaeredin.

Yn ôl yr hyfforddwr, Sean Holley, roedd hynny’n cynnwys y 60 munud gwaetha’ erioed yn hanes y rhanbarth pan lwyddodd yr Albanwyr i sgorio 33 pwynt mewn ychydig tros 20 munud.

Cnoc

Roedd yna gnoc i Mike Phillips hefyd ac roedd rhaid iddo adael y cae yn ei gêm lawn gynta’ ers dod yn ôl wedi anaf.

Ond y bore yma, roedd wrth ei fodd yn arwyddo’r cytundeb a fydd yn ei gadw yn Stadiwm Liberty tan 2014.

“Gyda fy nyfodol yn glir bellach, mi alla’ i ganolbwyntio ar ddod yn ôl i fy ngorau ar gyfer rhai o’r gemau pwysig sydd o’n blaenau ni,” meddai’r mewnwr a ymunodd gyda’r rhanbarth yn 2007.

“Mae gyda ni’r uchelgais i fod ymhlith timau gorau Ewrop. D’yn ni ddim wedi llwyddo eto, ond r’yn ni’n mynd i’r cyfeiriad iawn.”

Crasfa yng Nghaeredin

Roedd yna dorri record yn y gêm yn erbyn Caeredin ym Murrayfield, gydag asgellwr yr Albanwyr, Tim Visser, yn storio’r hatric cyflyma’ o geisiau yn hanes y Magners.

Roedd hynny mewn cyfnod o ychydig tros 20 munud pan gafodd Caeredin eu holl bwyntiau ac roedd dwy o’r ceisiau’n symudiadau hyd y cae.

Dim ond 7-0 oedd hi ar hanner amser, gyda’r Gweilch wedi amddiffyn yn dda er gwaetha’ ildio tir.

Fe ddaethon nhw’n ôl yn gry’ ar y diwedd hefyd, gan sgorio tri chais yn y chwarter ola’, trwy Nikki Walker, Jerry Collins a Sonny Parker.