Mae disgwyl y bydd diemwnt ‘glas’ prin yn cael ei werthu am bron i bedair miliwn o bunnau y mis nesa’.
Mae’r garreg siâp gellyg, 5.16 carat, wedi’i gosod mewn modrwy, a dyma’r diemwnt glas cyntaf o gasgliad cwmni De Beers i fynd dan y morthwyl.
Fe fydd y diemwnt yn cael ei werthu gan gwmni Sotheby’s yn Hong Kong ar Ebrill 7. Maen nhw’n cynnig pris arweiniol o hyd at $5.8 miliwn (neu £3.8 miliwn).
Y gorau glas
Mae arbenigwyr yn dweud fod y garreg dan sylw yn arddangos lliw glas llachar, y gorau a’r uchaf ei safon ar gyfer gemau lliwgar.
Mae diemwntau yn arddangos rhyw wawr las os yw’r elfen Boron yn bresennol pan mae’r garreg yn cael ei ffurfio. Maen nhw’n arbennig o brin.
Mae ymysg y dwsin o gerrig gwerthfawr a gafodd eu harddangos yn yr hen Ddôm y Mileniwm yn Llundain yn 2000. Roedd y casgliad hwnnw’n cynnwys diemwnt gwyn 203.04 carat