Mae corff dyn yn ei dridegau hwyr wedi cael ei ddarganfod yn Nyffryn Ogwen.
Roedd hynny ar ôl tân mewn tŷ yn ardal Glanogwen o Fethesda.
Fe gafodd diffoddwyr tân o Fangor eu galw yno ychydig wedi hanner dydd ddoe ar ôl i gymdogion a heddlu eu galw yno.
Dyw enw’r dydd ddim wedi ei gyhoeddi a does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd.
Yn y cyfamser, mae ymchwiliad ar y cyd yn cael ei gynnal gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu’r Gogledd.