Mae un o brif arbenigwyr cyfreithiol gwledydd Prydain wedi cefnogi safiad y Llywodraeth tros warchod gwybodaeth am lofrudd James Bulger, Jon Venables.
Does ganddyn nhw ddim dewis, meddai’r Arglwydd Carlile, cyn AS Maldwyn ac ymgynghorydd annibynnol y Llywodraeth ar gyfraith wrthderfysgaeth.
Fe ddywedodd wrth Radio Wales heddiw bod yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Jack Straw – fel pawb arall – wedi ei wahardd rhag datgelu gwybodaeth a allai arwain at adnabod Venables.
Dim rhagor o fanylion
Ddoe fe gadarnhaodd Jack Straw na fyddai’n rhoi rhagor o fanylion pam bod Venables wedi ei gymryd yn ôl i’r ddalfa – a hynny er gwaetha’ pwysau gan y wasg a mam James Bulger, Denise Fergus.
Mae eisoes wedi egluro bod Venables wedi ei gymryd yn ôl i’r ddalfa ar amheuaeth o drosedd ddifrifol ond, yn ôl Alex Carlile, roedd rhaid ystyried y posibilrwydd y gallai fod yn ddieuog.
Dyna’r union bwynt yr oedd y Farwnes Butler-Sloss wedi ei wneud yn Nhŷ’r Arglwyddi ddoe – hi oedd y barnwr a osododd y gwaharddiad gwybodaeth pan gafodd Jon Venables a’i gyd lofrudd, Robert Thompson, eu rhydau ar drwydded yn 2001.
Bryd hynny hefyd, fe gawson nhw enwau a hunaniaeth newydd, yn ogystal ag amodau’n eu gwahardd rhag gweld ei gilydd neu fynd i Lannau Mersi, lle digwyddodd y llofruddiaeth.
Peryg o ladd Venables
Fe rybuddiodd y Farwnes hefyd bod y bobol oedd eisiau llofruddio Jon Venables bryd hynny yn dal i fod o gwmpas heddiw.
“Mae yna bosibilrwydd nad yw wedi cyflawni trosedd ac, felly, y gallai gael ei ryddhau o garchar ar drwydded unwaith eto.”
Dadl arall Alex Carlile oedd na wyddon ni ddim beth yw sefyllfa Jon Venables erbyn hyn – efallai ei fod yn briod gyda theulu ac fe allai datgelu gwybodaeth fod yn beryglus ac annheg iddyn nhw.
Llun: Jon Venables adeg y llofruddiaeth