Fe roddwyd awgrym clir y gallai rhif 8 Caerloyw, Gareth Delve, fod yn nhîm Cymru ar gyfer y gêm fawr yn erbyn Iwerddon dros y Sul.
Fe ddywedodd un o’r tîm hyfforddi, Neil Jenkins, bod y chwaraewr rheng ôl wedi bod yn chwarae’n dda ac y byddai’n gwneud “job iawn” pe bai’n cael ei gynnwys.
Fe gafodd Delve ei alw i mewn i’r garfan ddoe, oherwydd nifer o anafiadau a phryder tros gapten Cymru, Ryan Jones.
Er bod Jenkins yn disgwyl i Ryan Jones fod yn holliach, fe allai Delve gael lle yn y rheng ôl beth bynnag.
Mae eisoes wedi cael naw o gapiau i Gymru ac mae nifer o sylwebyddion wedi synnu na chafodd ei gynnwys ynghynt.
Philips neu Rees?
Wrth baratoi i gyhoeddi’r tîm heddiw, y dewis mawr arall i brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yw safle’r mewnwr.
Mae’r dewis cynta’, Mike Phillips, yn ôl yn iach ar ôl cyfnod hir gydag anaf ac mae wedi chwarae mewn dwy gêm ddiweddar tros ei ranbarth, y Gweilch.
Er hynny, mae Richie Rees o’r Gleision wedi bod yn un o chwaraewyr gorau Cymru yn ystod y tair gêm fratiog gynta’.