Cynyddu maint testun

Golwg360



Burma’n penodi comisiwn etholiadol

Mawrth 9, 2010 08:37

Fe fydd junta Burma yn penodi comisiwn i drefnu etholiadau cynta’r wlad ers 20 mlynedd.

Ond mae ofnau cynyddol ymysg grwpiau sy’n ymgyrchu am ddemocratiaeth – y bydd yr etholiad yn cael ei drefnu mewn modd sy’n ffafrio’r fyddin a’i chefnogwyr.

Mae prif arweinydd yr ymgyrchwyr democrataidd, Aung San Suu Kyi, yn dal i gael ei chadw’n gaeth yn ei chartref a’i gwahardd rhag sefyll.

Cyfreithiau

Fe fydd y cyfreithiau etholiad a gafodd eu pennu ddoe yn nodi’r drefn a’r rheolau ar gyfer ymgyrchu yn ogystal â nodi dan ba amodau y gall y Pleidiau gymryd rhan.

Y disgwyl yw y bydd y manylion yn cael eu rhyddhau gan gyfryngau’r wlad dros y dyddiau nesa’ – mae’r Llywodraeth wedi addo cynnal etholiad eleni, ond dydyn nhw ddim wedi dweud pryd.

Y ddeddf gyntaf i gael ei hesbonio yw’r un i sefydlu Comisiwn a fydd â hawl derfynol i osod trefn yr etholiad.

Fydd dim lle i aelodau o bleidiau gwleidyddol a rhaid i bob person ar y Comisiwn gael eu hystyried gan y Junta “yn flaenllaw a chydag enw da”.

Enw’r Comisiwn fydd y Cyngor Heddwch Gwladol a Datblygu.

Y cefndir

Fe gafodd etholiad diwetha’r wlad, yn 1990, ei ennill gan Blaid y Gynghrair Genedlaethol dros Ddemocratiaeth o dan arweiniad Aung San Suu Kyi, ond gwrthododd y fyddin drosglwyddo’r awenau iddi.

Mae hi wedi cael ei charcharu neu ei chadw’n gaeth yn ei chartre’ am y rhan fwya’ o’r 20 mlynedd ers hynny ac fe gafodd ei dedfrydu eto’r llynedd – yn ôl ei chefnogwyr, roedd hynny ar gyhuddiad ffug.

Hyd yn hyn, dyw Plaid Aung San Suu Kyi ddim wedi ymrwymo i gymryd rhan yn y bleidlais eleni gan eu bod yn dadlau bod cyfansoddiad a basiwyd yn 2008 yn annheg.
Mae cymalau yn y cyfansoddiad yn sicrhau bod y fyddin yn cadw hawl i lywodraethu ac yn gwahardd Aung San Suu Kyi rhag dal swydd.

Llun: Aung San Suu Kyi