Cynyddu maint testun

Golwg360



Clwb yn talu’n ddrud ar ôl ‘bygythiadau’ ar y we

Mawrth 9, 2010 09:49

Mae ysgrifennydd clwb pêl-droed Y Drenewydd wedi condemnio’r gwefannau fu’n trio codi helynt cyn eu gêm yn erbyn Aberystwyth dros y penwythnos.

Fe fu’n rhaid i’r clwb gael stiwardiaid ychwanegol yn ogystal â thalu chostau plismona sylweddol ar ôl i wefannau fygwth trafferth rhwng cefnogwyr y clybiau.

Roedd 475 o gefnogwyr yn bresennol ym Mharc Latham i wylio’r gêm – torf fwyaf y tymor i’r Drenewydd. Ac er gwaetha’r bygythiadau, doedd dim trwbwl o gwbwl.

Diolch i’r Drenewydd

“Diolch yn fawr i’r cefnogwyr am wrando ar ôl i ni ofyn iddyn nhw fihafio eu hunain,” meddai ysgrifennydd Y Drenewydd, Owen Durbridge.

“Gair o ddiolch hefyd i stiwardiaid a chefnogwyr Aberystwyth.

“Roedd yr heddlu’n gefnogol iawn hefyd ar ôl y dwli ar rai gwefannau. Ond yr agwedd anffodus yw bod y clwb wedi derbyn cyhoeddusrwydd negyddol.

“Yn ogystal, fe fu’n rhaid gwario arian ar blismona yn Y Drenewydd – rhywbeth sydd erioed wedi bod angen ei wneud o’r blaen, ac rwy’n gobeithio na fydd byth angen ei wneud eto.”

Buddugoliaeth i Aberystwyth

Mae Aberystwyth yn ôl i’r trydydd safle yn Uwch Gynghrair Cymru ar ôl curo’r Drenewydd 1-2 ddydd Sadwrn.

Fe sgoriodd Conall Murtagh gôl agoriadol y gêm i roi tîm Alan Morgan ar y blaen wedi chwarter awr.

Cafodd y Drenewydd gyfloed i unioni’r sgôr gyda Dylan Blain a Ross Stephens yn dod yn agos.

Ond Aberystwyth sgoriodd eto ar ôl i gamgymeriad amddiffynol gan Andrew Thomas a’r golwr, Dave Jones, adael Luke Bowen i ganfod cefn y rhwyd.

Fe darodd Paul Roberts yn ôl dros Y Drenewydd gydag ychydig dros ddeg munud o’r gêm yn weddill, ond fe ddaliodd Aberystwyth eu tir i sicrhau’r fuddugoliaeth.