Cynyddu maint testun

Golwg360



Senedd grog, meddai’r polau diweddara’

Mawrth 9, 2010 10:06

Mae rhagor o bolau piniwn yn awgrymu’r posibilrwydd o senedd grog, gyda’r Ceidwadwyr yn methu â chael cweit digon o seddi i ffurfio Llywodraeth ar ei phen ei hun.

Er hynny, mae’r bwlch ychydig yn fwy nag mewn ambell arolwg barn diweddar – gydag un yn dangos bwlch o saith pwynt a’r llall yn awgrymu y bydd y Torïaid yn ennill bron 100 o seddi ymylol.

Ym mhapur y Daily Express, mae arolwg yn dangos Llafur ar 30 a’r Ceidwadwyr ar 37 – ychydig yn llai na’r 40 y mae’r rhan fwya’ o sylwebwyr yn credu sydd ei angen arni.

Roedd y cwmni arolygon wedi holi 1860 o oedolion rhwng Mawrth 5 ac 8, sy’n cynnwys peth o effeithiau ymddangosiad y Prif Weinidog o flaen Ymchwiliad Chilcot ac araith David Cameron yn Llandudno dros y Sul.

Seddi ymylol

Asesu’r canlyniadau posib mewn 150 o seddi ymylol a wnaeth cwmni Populus ar ran papur y Times.

Roedd y cyfan yn rhai y byddai’r Ceidwadwyr yn gobeithio’u hennill oddi ar Lafur. Fe gynhaliwyd yr arolwg yn y 100 sedd lleia’ tebygol o’r rheiny.

Yn ôl y papur, y canlyniad o ystyried y cyfan i gyd fyddai bod y Ceidwadwyr yn cipio 97 o’r 150 … tua 20 yn brin o’r hyn sydd ei angen arnyn nhw.