Mae athrawes ysgol yn Bangladesh wedi cael ei chyhuddo o daro wyth o’i disgyblion mor galed, nes eu bod nhw angen triniaeth ysbyty. Roedd yr wyth wedi anghofio dod â’u pensiliau i’r ysgol efo nhw.
Fe gafodd y ddwy ferch a’r chwe bachgen, rhwng 10 a 12 oed, eu trin mewn ysbyty yn nhre’ Feni wedi iddyn nhw arddangos cleisiau ar eu breichiau a’u cefnau.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw’n ymchwilio i gwynion yn erbyn yr athrawes, Ratna Roy.
Dweud y drefn
Mae nifer o athrawon yn Bangladech yn defnyddio cosbi corfforol – gyda chansen neu â llaw – i ddisgyblu plant, er bod gorchymyn wedi’i gyhoeddi yn 1985 yn gwahardd hynny.
Mae rhieni, mewn rhai achosion, yn cefnogi’r arfer, ac mae’n anarferol i’r heddlu ymchwilio i gwynion.
Yn 2009, fe ddangosodd ymchwil gan UNICEF fod un o bob deg o blant ysgol yn Bangladesh yn cael eu cosbi’n gorfforol gan eu hathrawon.