Cynyddu maint testun

Golwg360



Marw arwres y Resistance

Mawrth 9, 2010 10:46

Mae arwres y Resistance Ffrengig wedi marw yn Lloegr, yn 105 oed.

Roedd Andree Peel, dan ei ffugenw Agent Rose, wedi achub dros 100 o fywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fe oroesodd hefyd ymosodiadiau gan y Natsïaid, ac fe helpodd res o beilotiaid Prydeinig ac Americanaidd i ddianc o Ewrop.

Fe ysgrifennodd Winston Churchill lythyr personol ati yn ei llongyfarch ar ei gwaith – ond fe fu’n rhaid iddi ddinistrio hwnnw yn syth ar ôl ei ddarllen am resymau diogelwch. Y llynedd, fe dderbyniodd ail wobr Legion d’Honneur oherwydd ei dewrder.

Roedd Andree Peel yn byw mewn cartref nyrsio ger Bryste.