Cynyddu maint testun

Golwg360



Gwerthu ysbrydion mewn ocsiwn

Mawrth 9, 2010 11:21

Mae dwy botel wydr “sy’n cynnwys ysbrydion” wedi’u gwerthu am 2,830 o ddoleri Seland Newydd (tua £1,320 o bunnoedd) mewn ocsiwn.

Fe gafodd yr ‘ysbrydion’ eu rhoi ar werth gan Avie Woodbury o ddinas Christchurch.

Mae hi’n dweud ei bod wedi dal yr ysbrydion yn ei chartref a’u storio mewn poteli gwydr gyda chaeadau arnyn nhw. Yna, roedd wedi’u trochi nhw mewn dŵr sanctaidd, meddai, er mwyn “lleddfu ynni’r ysbrydion”.

Y ddau ysbryd

Ysbryd hen ddyn oedd yn byw yn y tŷ yn ystod y 1920au sydd yn un o’r poteli, ac ysbryd aflonydd merch fach a wnaeth ymddangos ar ôl sesiwn bwrdd Ouija yw’r llall, yn ôl Avie Woodbury.

Ers sesiwn arbennig i fwrw’r ysbrydion ymaith fis Gorffennaf diwetha’, mae’n honni nad oes unrhyw symudiadau rhyfedd wedi bod yn y tŷ.

Dyw Ocsiwn Trademe, y cwmni oedd yn gwerthu’r poteli ar ei rhan, ddim wedi datgelu enw’r prynwr.