Mae Neil Jenkins yn credu bod Cymru’n agos i sicrhau buddugoliaethau cyson unwaith eto, wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Iwerddon yn Croke Park ddydd Sadwrn.
Fe ddaeth gobeithion Cymru o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad i ben ar ôl colli 26-20 i Ffrainc yn eu gêm ddiwethaf. Ond mae Neil Jenkins yn obeithiol am y dyfodol.
“R’yn ni’n dîm ffit iawn ac yn gryf iawn yn hanner awr ola’r gêm,” meddai.
“D’yn ni ddim yn bell i ffwrdd o ennill. R’yn ni’n trafod llawer am gychwyn yn dda a chynnal hynny trwy gydol y gêm.
“Ni wedi chwarae rygbi da eleni, ac r’yn ni’n hoffi chwarae mewn steil arbennig. Mae’n diddanu’r dorf, ond r’yn ni hefyd eisie dechre ennill gemau.”
Patrwm o golli
Gêm Ffrainc oedd y drydedd yn olynol yn y bencampwriaeth i Gymru roi mantais pwyntiau mawr i’w gwrthwynebwyr cyn brwydro’n ôl yn y munudau ola’.
Dim ond yn erbyn yr Alban y medrodd Cymru sicrhau buddugoliaeth – roedd y bwlch yn erbyn Lloegr a Ffrainc yn ormod i dîm Warren Gatland.
“Mae Iwerddon yn dîm da iawn. Mae ganddyn nhw lawer o brofiad ac maen nhw’n dîm deallus – fe fydd hi’n galed iawn,” meddai Neil Jenkins.
Llun: Shane Williams, un o sgorwyr munud ola’ Cymru eleni (PA)