Mae un o gefnogwr y Blaid Lafur, yr Arglwydd Paul, wedi cyhoeddi ei fod yn barod i roi’r gorau i’w statws “non-dom” dadleuol a thalu trethi llawn yn y Deyrnas Unedig.
Er gwaethaf awgrymiadau y byddai’n gadael Tŷ’r Arglwyddi yn hytrach na phreswylio yng ngwleydd Prydain, mae’r arglwydd wedi dweud ei fod yn “cefnogi” y rheolau newydd ynglyn â noddi pleidiau gwleidyddol, ac y bydd yn “cydymffurfio’n llwyr”.
“Rwy’n cefnogi cynigion y llywodraeth ynglyn â statws treth ac Aelodau Seneddol ac aelodaeth Tŷ’r Arglwyddi a Thŷ’r Cyffredin,” meddai’r Arglwydd Paul.
“Fe fydda’ i’n talu’r holl drethi.”
Yr hanes
Fe ddaeth yr Arglwydd Paul o dan bwysau yn dilyn datguddiad yr wythnos diwethaf bod dirprwy gadeirydd y Ceidwadwyr, yr Arglwydd Ashcroft yn “non-dom” er gwaethaf dweud y byddai’n breswyliwr parhaol pan gafodd ei urddo ddeng mlynedd yn ôl.
Ond fe fynnodd yr Arglwydd Paul ei bod yn “chwerthinllyd” i gymharu’r ddwy sefyllfa, gan ei fod e wastad wedi bod yn gwbwl agored ynglŷn â’i statws treth.