Mae awdures wedi defnyddio atgofion pentrefwyr am yr ymgyrch yn erbyn boddi Cwm y Gwendraeth Fach yn y 1960au, cyn ysgrifennu nofel am y cyfnod.
Mae Achub y Cwm gan Gwen Redvers Jones wedi ei selio ar ymgyrch 1963 i rwystro’r awdurdodau rhag boddi pentref Llangyndeyrn a’r cwm er mwyn darparu dŵr ar gyfer Abertawe.
Roedd yr awdures o Gaerfyrddin, wedi anfon holiadur at nifer o bobol y cwm gan ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd yn gefndir i’w stori. Mae’n cyflwyno’r gyfrol i’r ymgyrchwyr dewr ar y pryd.
Y stori
Dyddiadur merch fferm deng mlwydd oed, Rebeca Gwenllian Jones yw Achub y Cwm, ac mae’r stori yn portreadu cymdeithas amaethyddol, glos, Gymreig, a brwydr y pentrefwyr – a’r plant – i achub eu tir, eu cartrefi, eu bywoliaeth a’u cymdeithas.
Athrawes wedi ymddeol yw Gwen Redvers Jones, ac mae hi wedi cyflwyno’r llyfr “i’r rhai dewr wnaeth ddal eu tir”.
Mae’r llyfr i blant yn cael ei gyhoeddi gan Wasg Gomer.