Mae cynhyrchiad newydd o opera Bizet yn mynd ar daith o Ynys Môn i Sir Benfro.
Yng nghynhyrchiad diweddara’ cwmni OPRA Cymru, Carmen a’i Chariadon, fe fydd y cantorion Caryl Hughes, Gareth Huw John a Sion Goronwy yn canu gwaith Bizet yn gyfan gwbwl drwy gyfrwng y Gymraeg – a hynny i gyfeiliant Helen Davies ar y piano.
Fe fu Twm Morys yn teithio o amgylch wyth ysgol uwchradd yn gweithio ar gyfieithiad o’r opera wreiddiol gyda disgyblion Cymru.
“Dim ofn”
“Doedd plant ddim ofn cyfieithu gwaith gwreiddiol fel hwn. Maen nhw wedi mwynhau’r her. Fe wnaeth Twm ddod a’r peth yn fyw iddyn nhw” meddai Sioned Young o OPRA Cymru wrth Golwg360 cyn dweud ei fod yn “sioe wych” a’r geiriau’n “ffantastig”.
“Drwy wrando ar ganeuon o’r opera wreiddiol yn Gymraeg – mae’r stori a’r ddrama yn dod drwodd” meddai Sioned Young.
“Mae hi’n dipyn o her i’r cantorion trwy ganu’n Gymraeg. Mae’r gynulleidfa’n deall beth maen nhw’n ei ddweud wrth ganu’n Gymraeg. Mae ganddyn nhw fwy o berthynas gyda’r gynulleidfa.”
Lle?
Mawrth 9 – Ysgol Uwchradd Caergybi
Mawrth 10 – Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog
Mawrth 11 – Ysgol Uwchradd Tregaron
Mawrth 12 – Neuadd Goffa Aberaeron
Mawrth 15 – Y Plas, Machynlleth
Mawrth 16 – Ysgol Botwnnog
Mawrth 17 – Theatr y Gromlech, Crymych
Mawrth 19 – Theatr Colwyn, Bae Colwyn
Llun: Twm Morys ar ei daith o gwmpas Cymru yn cyfansoddi’r geiriau Cymraeg