Fe fydd artist o Brifysgol Abertawe yn rhoi “cwtsh” i’r Mynydd Du ar Sul y Mamau eleni.
Mae Ann Jordan wedi gwau cwrlid gwlân a fydd yn gorchuddio 20 troedfedd o’r mynydd – gwaith sydd wedi cymryd blynyddoedd i’w gwblhau. Mae hynny’n cynnwys nyddu 12 milltir o edafedd gyda llaw a thros 1,500 o oriau gwau 140,000 o bwythau.
Fe fydd y cwrlid yn gorchuddio Carnau’r Garreg, man claddu hynafol. Bwriad y gwaith, meddai’r artist o Gilâ, yw archwilio ei pherthynas hi ei hun a’r tirlun, gan ddathlu cylch bywyd, marwolaeth ac ailenedigaeth.
“Stori ryfeddol”
“Un o’r pethau’n sy’n fy hudo i ydi’r stori ryfeddol y mae’r flanced hon yn ei dweud. Dw i wedi bod yn ymchwilio i hanes y llwybr arch at Garnau’r Garreg,” meddai Ann Jordan.
“Mae’r ardal yn rhan bwysig o hanes Cymru – mae wedi fy swyno i, ac rwy’n gobeithio y gwnaiff yr un peth i bobol eraill.”
Y seremoni
Y man cyfarfod ar gyfer seremoni gosod y flanced fydd Eglwys St Simon a St Jude yn Llanddeusant.
Bydd ficer yr Eglwys, Mike Cottam, yn bendithio’r flanced 8kg, a bydd Judith Harvey, rheolwraig Gorllewin Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn ei chario chwe milltir ar hyd llwybr yr arch i’r garnedd gladdu hynafol.
Fe fydd y flanced i’w gweld yno tan Ebrill 25.