Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi galw am drafodaeth yn Nhŷ’r Cyffredin ynglŷn â’r drefn o dalu iawndal sy’n ymwneud â melinau gwynt.
Mae Elfyn Llwyd yn dweud ei fod wedi galw am ymchwiliad er mwyn sicrhau fod awdurdodau lleol a chymunedau yn cael yr iawndal sy’n ddyledus iddyn nhw gan y cwmnïau mawr.
Mae’n dweud fod y sustem bresennol yn annheg, gan fod rheolau’n mynd o blaid y cwmnïau ynni yn hytrach na’r awdurdodau a’r cymunedau lleol.
Llandudno’n tynnu sylw
Mae’r mater wedi codi yn ddiweddar wedi i bryderon gael eu mynegi ynglŷn â’r broses iawndal ynghlwm â fferm wynt Gwynt y Môr ger Llandudno.
Yn ôl cynghorydd lleol, Phil Edwards, mae oedi mawr yn y broses rhwng y Llywodraeth, y cyngor a’r cwmni nPower Renewables.
Mi ddylai’r arian yma fod yn mynd yn ôl i’r gymuned yn yr ardal, meddai, ond mae hyn yn cael ei atal am nad oes yna fodd effeithlon a theg i sicrhau fod yr iawndal cywir yn cael ei dalu gan y cwmni ynni.
Mae Elfyn Llwyd wedi dweud ei fod eisiau “gweld sefyllfa lle mae awdurdodau lleol yn cael cytundeb teg i’w hunain ac i’r drethdalwyr”.