Gallai pawb sy’n berchen ci gael eu gorfodi i gael yswiriant rhag ofn i’w hanifail ymosod ar rywun.
Dyma un o awgrymiadau Llywodraeth Prydain yn eu cynnig i ddiwygio’r Ddeddf Cŵn Peryglus.
Dyma rai o’r argymhellion:
• Gorfodi perchnogion i gael yswiriant i dalu am niwed i bobol.
• Yn gorfodi perchnogion i gael sglodyn meicro ar yr anifail er mwyn eu hadnabod.
• Gosod gorchmynion cymdeithasol – math o ‘Asbo’ i gŵn – ar berchnogion ar gŵn sy’n camfihafio er mwyn gorfodi eu perchnogion i’w cadw o dan reolaeth.
• Mewn achosion difrifol iawn, gallai’r ci gael ei gymryd oddi ar y perchennog a’i roi i ofalwyr newydd.
• Ymestyn y drosedd o ganiatáu i anifail fod “yn beryglus ac allan o reolaeth” i gynnwys tir preifat yn ogystal â chyhoeddus. Fe fyddai hynny’n rhoi mwy o ddiogelwch i weithwyr post.
Magu cŵn milain
Daw’r cynnig i ddiwygio yn sgil y cynnydd mawr yn nifer y cŵn sy’n cael eu magu i fod yn filain a’u defnyddio fel petaen nhw’n arfau.
Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson, wedi dweud bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn bobol gyfrifol, ond nad oes yna “ddim amheuaeth” fod rhai pobol yn magu cŵn er mwyn dychryn eraill.
“Dyma’r math o ymddygiad na fyddwn ni’n ei oddef,” meddai. ”Dyma’r math o ymddygiad yr ’yn ni’n benderfynol o’i atal.”
‘Dogbo’ – sut y byddai’n gweithio
Byddai’r ‘Dogbo’ yn caniatáu i’r heddlu a swyddogion cyngor orfodi perchnogion i i roi mwgwd am geg ci sy’n brathu, i’w rhoi ar dennyn wrth fynd â nhw am dro a hyd yn oed eu gorfodi i sbaddu eu hanifail.
Llun: Alan Johnson, yr Ysgrifennydd Cartref