Cynyddu maint testun

Golwg360



“Cefnogwch ddatganoli” meddai gweddw heddwas

Mawrth 9, 2010 13:09

Mae gweddw heddwas gafodd ei lofruddio yng Ngogledd Iwerddon, wedi erfyn ar i wleidyddion gefnogi’r cytundeb datganoli plismona i’r wlad.

Mae Kate Carroll, gweddw’r Cwnstabl Stephen Carroll a gafodd ei saethu’n farw gan y Continuity IRA flwyddyn yn ôl i heddiw, wedi dweud y dylai pob plaid cefnogi’r cynllun.

Ond mae Plaid Unoliaethwyr Ulster eisoes wedi dweud eu bod yn bwriadu gwrthod datganoli plismona a phwerau cyfiawnder o San Steffan.

Blwyddyn i’r diwrnod

“Mae’r bore yma wedi bod yn anodd iawn i mi, ac rwy’n gofyn i bawb yn Stormont i wneud eu gwaith,” meddai Kate Carroll wrth BBC Ulster., flwyddyn union wedi marwolaeth ei gwr.  

“Mae’n rhaid i bawb stopio’r anghytuno dros rywbeth sy’n mynd i symud ymlaen beth bynnag. Plîs gadewch i bethau symud ymlaen.”

Pwysau o America

Mae’r Unoliaethwyr o dan bwysau rhyngwladol i gefnogi’r cytundeb.

Mae ‘na adroddiadau bod cyn arlywydd yr Unol Daleithiau, George W Bush wedi cysylltu ag arweinydd y Ceidwadwyr, David Cameron i ymyrryd oherwydd cytundeb etholiadol ei blaid gyda’r Unoliaethwyr yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r Unoliaethwyr wedi cael eu cyhuddo o chwarae gwleidyddiaeth gyda’r broses heddwch, ond maen nhw wedi cyhuddo’r llywodraeth o geisio bwlio hwy i arwyddo’r
cytundeb.